Job description
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Bod yn gyfrifol am drefnu, gweinyddu a monitro pob ffynhonnell cyllid myfyrwyr, gan gynnwys: Cronfeydd Ariannol wrth gefn, LCA, Grantiau Dysgu Oedolion a Grantiau Gweithredu Teuluol
- 22.5 Oriau Pob Wythnos
- Rhan Amser – Parhaol
- Cyflog - £11,621 - £12,650 pro rata
- Abertawe, SA2 9EB
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Hyrwyddo ffynonellau ariannu i fyfyrwyr mewn modd gweithredol a meithrin perthnasoedd gwaith da gyda myfyrwyr, staff y Coleg a darparwyr allanol.
- Cynnal a datblygu (yn ôl yr angen) systemau a gweithdrefnau ar gyfer gweinyddu cyllid myfyrwyr yn unol â’r Adran Gyllid a Chyllid Myfyrwyr Cymru.
- Gweinyddu’r holl Gronfeydd Cyllid Myfyrwyr yn ôl yr angen, gan gynnwys Cronfeydd Ariannol wrth gefn, GDC, LCA, a Grantiau Gweithredu Teuluol.
- Cysylltu â myfyrwyr a thiwtoriaid ynghylch materion ariannu.
Amdanoch chi:
- Cymhwyster Lefel 3 (Lefel A neu gyfwerth) mewn maes perthnasol
- 5 TGAU (Gradd A-C) neu gymwysterau cyfwerth gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
- Gwybodaeth am systemau gweinyddu ac ariannol
- Sgiliau TG da - MS Word, Excel ac Outlook.
Buddion:
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Parcio am ddim
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).