Job description
We are Wales Millennium Centre - Fire for the Imagination
Role Title: Stage Door Receptionist
Salary: £10.90 per hour
Closing Date: 29/09/2023
Interview Date: 03/10/2023
Please note that applications via Indeed will not be accepted.
To apply for this role and to find out more about what we do at WMC, please visit: Careers and jobs | Wales Millennium Centre (wmc.org.uk)
About WMC/Our Department:
WMC is a home for the arts in Wales, and a cauldron of creativity for the nation. We fire imaginations by curating world-class, critically acclaimed touring productions, from musical theatre and comedy to dance, cabaret, and an international festival. We kindle emerging talents with fresh, provocative, and popular pieces of our own, rooted in Welsh culture. And we ignite a passion for the arts in young people with life-changing learning experiences and chances to shine in the spotlight.
About the Role and Responsibilities:
The position of Stage Door Receptionist falls within the Business Operations function and plays a key role in ensuring that a first class ‘Warm Welsh Welcome’ is provided for visitors, staff and performers at different levels as well as being responsible for ensuring that a safe and secure environment is in place.
Key Requirements:
- Researching and scoping out potential ideas for departmental project and efficiency work.
- Assisting the team and wider business area with the preparation and delivery of project work as and when required.
- Meeting and greeting all visitors, staff and performers with a helpful, courteous and friendly custom.
- Coordinating information for visiting company.
- Receiving incoming telephone queries, ensuring the efficient transferring of calls, taking messages, and dealing with enquiries professionally as required.
- Delivering messages, internal and incoming mail for WMC, resident organisations, and retailers.
- Delivering a high standard of customer service to all visitors, staff, and performers.
What’s in it for you?
- Real living wage employer
- Access to Now pension
- Flexibility of working hours – pick the shifts/hours that work around your personal life and commitments
- Access to the Theatre Helpline, which includes support for: mental health and wellbeing, injury, debt, and financial issues etc
- Free access to learn Welsh online
- Mental health allies and support
- 20% discount from WMC restaurants and cafes
- £5 all-day parking available on working and non-working days.
--------------------------------------------------------------------------------------------
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Derbynnydd Drws y Llwyfan
Cyflog:£10.90 yr awr
Dyddiad Cau: 29/09/2023
Dyddiad Cyfweld: 03/10/2023
Noder na fydd ceisiadau trwy Indeed yn cael eu derbyn.
I wneud cais am y rôl hon ac i ddarganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ewch i: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi
Amdanom ni/Ein Hadran:
Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Mae swydd Derbynnydd Drws y Llwyfan yn dod o dan swyddogaeth Gweithrediadau Busnes y Ganolfan ac mae’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau ein bod yn cynnig ‘Croeso Cynnes Cymreig’ i ymwelwyr, staff a pherfformwyr ar wahanol lefelau, yn ogystal â bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel.
Gofynion Allweddol:
- Ymchwilio syniadau posibl ar gyfer gwaith prosiect ac effeithlonrwydd adrannol.
- Cynorthwyo’r tîm a’r maes busnes ehangach i baratoi a chyflawni gwaith prosiect yn ôl yr angen.
- Cyfarfod a chyfarch yr holl ymwelwyr, staff a pherfformwyr mewn modd cymwynasgar, cwrtais a chyfeillgar.
- Cydlynu gwybodaeth ar gyfer cwmnïau sy'n ymweld.
- Derbyn ymholiadau ffôn, sicrhau bod galwadau’n cael eu trosglwyddo’n effeithlon, cymryd negeseuon, a delio ag ymholiadau’n broffesiynol yn ôl yr angen.
- Dosbarthu negeseuon, post mewnol a phost sy'n cyrraedd ar gyfer y Ganolfan, sefydliadau preswyl, a manwerthwyr.
- Darparu safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid i'r holl ymwelwyr, staff a pherfformwyr.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- Cyflogwr cyflog byw go iawn
- Mynediad i bensiwn Now
- Hyblygrwydd o ran oriau gwaith – dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweithio o amgylch eich bywyd personol a'ch ymrwymiadau
- Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl
- Gostyngiad o 20% yng nghaffis a bwytai’r Ganolfan
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Job Type: Zero hours contract
Salary: £10.90 per hour
Work Location: In person
Application deadline: 29/09/2023