Job description
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r garfan reoli yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant. Rydyn ni am benodi Rheolwr yr Ystafell Ffitrwydd.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i reoli ein hystafell ffitrwydd a'n rhaglen ddosbarthiadau brysur. Byddwch chi'n rheoli carfan fach o weithwyr ffitrwydd proffesiynol gan sicrhau'r gwasanaeth i gwsmeriaid o'r safon uchaf a sicrhau bod dosbarthiadau a'r gampfa yn cael eu defnyddio i'w llawn botensial. Bydd y rôl yn gofyn am ddull gweithredu ymarferol gan weithio ar lawr y gampfa. Bydd gofyn hefyd i weithio'n agos â charfan reoli'r ganolfan a chael mewnbwn gwerthfawr i'r gwaith o redeg y ddarpariaeth iechyd a ffitrwydd o ddydd i ddydd yn y ganolfan yn ogystal â gweithredu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae'r rôl yn galw am weithio yn ystod y dydd, gyda'r nos, dros y penwythnos ac ar wyliau banc ar sail rota.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y swydd yma, cysylltwch â Gary Dalton – Rheolwr Hamdden neu Hannah Hibben – Rheolwr ar Ddyletswydd ar (01443) 224616.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.