Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaethau Plant

Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaethau Plant Barry, Wales

Vale of Glamorgan Council
Full Time Barry, Wales 32909 - 46496 GBP ANNUAL Today
Job description

Amdanom ni

Gwnewch newid nad ydych yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru

Os ydych yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig, rydym yn awyddus i siarad â chi am y cyfleoedd o fewn Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg.

Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rolau sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dimau Derbyn a Chymorth i Deuluoedd yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd gennych lwyth gwaith hawdd ei reoli, cewch gymorth rhagorol a chewch amser i'w dreulio gyda phlant a phobl ifanc.

Gallwch ddisgwyl cynhesrwydd a lefelau uchel o gymorth gan weithlu ymroddedig ac Awdurdod lle mae lles a datblygiad yn ganolog i'n gwaith.

Dyma gyfle arbennig i ymgartrefu mewn Awdurdod sydd â hanes llwyddiannus o wneud gwahaniaeth a pherfformio’n rhagorol. Mae perthnasau’n ganolog i'n gwaith, ac rydym yn hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar gryfder ym mhopeth a wnawn.

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

  • Tâl cystadleuol
  • Hyblygrwydd - Polisïau gweithio teulu-gyfeillgar a chymorth gweithio ystwyth gan gynnwys gweithio gartref
  • Llwythi gwaith y gellir eu rheoli - Mae ein rheolwyr wedi ymrwymo i gynorthwyo'r holl staff i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a llwyth achosion y gellir eu rheoli
  • Datblygu Staff - Rydym wedi ymrwymo i hyfforddiant a datblygu gyrfa gan gynnig llwybr gyrfa gwerth chweil a blaengar sy'n agored i bawb
  • Hyfforddiant - Bydd pob aelod o staff yn cael bag cit a hyfforddiant parhaus i'ch cefnogi chi i adeiladu perthnasoedd gyda'r teuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw
  • Pecyn adleoli ar gael i'ch helpu chi i symud i Fro Morgannwg

Edrychwch ar ein tudalen Swyddi Gwasanaethau Plant bwrpasol i ddarllen am y Weledigaeth, Timau a Buddion Gweithwyr.

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/jobs/Children-Services-Jobs/Children-Services-Jobs.aspx


Ynglŷn â'r rôl


Mae hwn yn gyfle gwych i roi gwreiddiau mewn Awdurdod sydd â hanes profedig o wneud gwahaniaeth a pherfformiad rhagorol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol. Ei brif rôl yw amddiffyn, cefnogi a diwallu anghenion gofal cymdeithasol plant ac oedolion sy'n agored i niwed, gan eu helpu i gyflawni'r ansawdd bywyd gorau posibl.

Ymhlith y timau mae:

  • Cymeriant
  • Cymorth i Deuluoedd
  • Plant yn Edrych ar Ôl
  • Pedwar ar ddeg Plws
  • Iechyd ac Anabledd Plant
  • Lleoliadau

Yn bennaf, rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwys i weithio yn ein Timau Derbyn a Chymorth i Deuluoedd.

Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ein Tîm Derbyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i bob cyfeiriad newydd a sicrhau ein bod yn darparu ymateb cychwynnol effeithiol. Mae gan y Tîm adnoddau da i alluogi gweithwyr i weithredu mewn modd amserol ond hefyd gydag amser i fyfyrio.

Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ein dau Dîm Cymorth i Deuluoedd yn cefnogi teuluoedd unwaith y bydd asesiad a chynllun cychwynnol wedi'u sefydlu gan ein Tîm Derbyn. Byddwch yn datblygu perthnasoedd tymor hwy gyda theuluoedd i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt. Bydd y gwaith yn bwrpasol a bydd risgiau'n cael eu rheoli'n hyderus.

Ym mhob un o'r timau, mae gweithwyr yn gallu bod yn garedig, yn gyson ac yn canolbwyntio yn eu gwaith gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr. Mae rheolwyr ar gael yn rhwydd ac mae lles staff yn flaenoriaeth.

Manylion Swydd Lawn:

Manylion am gyflog: Gradd 8, PCG 26 – 30 £32909 - £36298 p.a. / Gradd 9, PCG 31 – 35 £37261 - £41496 y.f.

Cyflog wrth benodi’n dibynnu ar gymwysterau a phrofiad fel y penderfynir gan y swyddog penodi. Nid oes cynnydd awtomatig o Radd 8 i Radd 9

Y timau canlynol; Bydd Derbyniad / Cymorth i Deuluoedd yn cael taliad ychwanegol blynyddol o £5,000

Oriau Gwaith: 37 awr / Llawn amser (oni thrafodir yn wahanol)

Prif Waith: Swyddfa’r Dociau, Y Barri

Angen Gwiriad DBS: Manwl


Amdanat ti


Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Gradd / Diploma cydnabyddedig neu gymhwyster cyfwerth mewn Gwaith Cymdeithasol hy Gradd, DipSW, CQSW ac ati.
  • Cofrestru gyda'r Cyngor Gofal
  • Profiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc ag anghenion cymhleth a'u teuluoedd.
  • Profiad o weithio aml-asiantaeth
  • Gwybodaeth am Egwyddorion Deddf Plant, deddfwriaeth gofal plant, arweiniad a safonau cenedlaethol.

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.


Sut i wneud cais


Os ydych yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig,
rydym yn awyddus i siarad â chi am y cyfleoedd o fewn Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg.

Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rolau sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen.

Fel arall, cysylltwch â ni unrhyw bryd (Sylwer - bydd angen i chi gwblhau cais am swydd fel rhan o’r broses recriwtio):

Amber Condy, Rheolwr Gweithredol

01446 704862 / [email protected]

Karen Conway, Rheolwr Gweithredol

01446 704204 / [email protected]

Rachel Evans, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

01446 704792 / [email protected]


Job Reference: SS00046

Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaethau Plant
Vale of Glamorgan Council

www.valeofglamorgan.gov.uk
Barry, United Kingdom
Neil Moore
$25 to $50 million (USD)
501 to 1000 Employees
Government
Regional Agencies
Related Jobs

All Related Listed jobs

Parcel Sorter
TRCGroup Gateshead, England 10.59 - 13.21 GBP HOURLY Today

03:30am - 09:00am (earlier starts later in the year). 10.59ph rising to 13.21ph after 12 weeks. As a multi-vertical recruitment agency, we source candidates

content writer
ContactPoint 360 Halifax 52000 - 49080 CAD ANNUAL Today

Join our CP360 Family, today!


Who We Are:

We are proud to call ourselves innovative leaders in...

purchasing agent
Lidl Wednesbury, England 82000 - 60000 GBP ANNUAL Today
Squad Member - Restaurant Team
YoSushi Cardiff, Wales 9.5 GBP HOURLY Today

Bespoke reward platform including access to retail, cinema & gym discounts. Being located in the heart of Cardiff, the main bus station and Central station are

server
Hillstone | San Francisco San Francisco, CA 56.25 - 31.25 USD HOURLY Today

Hillstone San Francisco is currently seeking exceptional candidates to join our service team. We are searching for friendly,...