Job description
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Ddarlithydd/Darlithwyr Banc mewn TGAU Saesneg a Mathemateg, Sgiliau Hanfodol Cymru (pob lefel), Llythrennedd Digidol, Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am athrawon neu ddarlithwyr hyblyg a phrofiadol i gyflenwi a darparu gwersi ailsefyll TGAU a chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar Lefel 1 a 2.
- Ni fydd gennych oriau gwaith penodol, a byddwch yn gweithio ar sail ad hoc
- Cyflenwi ar gyfer absenoldeb salwch neu dros dro
- Blwyddyn academaidd: Medi 2023 – Mehefin 2024
- £15.61 - £30.71 yr awr (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)
Byddwch yn:
- Athrawon, darlithwyr neu athrawon ysgol uwchradd wedi ymddeol cymwysedig a rhagorol, sy’n deall heriau amgylchedd addysgu
- Gweithwyr proffesiynol sy’n gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm i ddatblygu potensial dysgwyr, gan werthfawrogi eu bod yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd
- Pobl gyfeillgar a chlên gyda disgwyliadau uchel o bob dysgwr
- Gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad perthnasol diweddar o fentrau a manylebau newydd. Ar gyfer Llythrennedd Digidol er enghraifft, sgiliau i addysgu’r canlynol: llythrennedd gwybodaeth, cydweithredu digidol, creadigrwydd a sgiliau dysgu a defnydd moesegol o adnoddau digidol, olion traed digidol, amddiffyn eich hun ar-lein a seiberfwlio
- Ymarferydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd anghenion unigol dysgwyr
- Rhywun sydd â’r hyder a’r creadigrwydd i rannu syniadau ar gyfer ennyn diddordeb dysgwyr a dylunio adnoddau digidol difyr i wella’r ddarpariaeth ymhellach
- Gallu gweithio’n dda dan bwysau
Buddion:
- 46 diwrnod o wyliau blynyddol / Cytundeb Cenedlaethol Hawl Gyliau Blynyddol (pro rata)
- Mynediad i Raglen Cymorth Gweithwyr sy’n cynnig gwasanaeth cwnsela 24/7
- Parcio am ddim
- Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £21,506 - £42,326 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.