Welsh Headings

Welsh Headings Cardiff, Wales

Cardiff Council
Full Time Cardiff, Wales 24054 - 27852 GBP ANNUAL Today
Job description

Am Y Gwasanaeth


Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth i Deuluoedd yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth hwn yn hanfodol i gyflawni dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor o sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Drwy ddarparu cymorth ar y lefel isaf o ymyrraeth, nod y gwasanaeth newydd hwn yw lleihau nifer y teuluoedd sydd angen ymyrraeth adferol, gan sicrhau y gall pob teulu gyflawni eu canlyniadau gorau posibl.


Am Y Swydd


Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o’r Tîm Porth i Deuluoedd (Pwynt Cyswllt Cyntaf e.e. ymholiadau ffôn, gwe ac e-bost) i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth fel rhan o Wasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Mae'r llinell ffôn ar agor o 8:30am - 5:00pm bob dydd ac mae patrwm shifft yn ei le ar gyfer cyflenwi. Mae patrymau sifft yn destun adolygiad ac anghenion busnes.

Byddwn yn cynnig:

  • Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.
  • Cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd i'ch cefnogi yn eich gwaith.
  • Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol.
  • Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol ar gyfer ei weithwyr.
  • Cyfle i gyflwyno gwasanaeth i fabanod, plant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr sy'n gwneud gwahaniaeth i'r rhai rydym yn eu cefnogi.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych


Croesewir ceisiadau gan y rhai sydd â’r gallu i empathi, yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol, gwrando a chyfathrebu rhagorol i feithrin cydberthynas effeithiol a rhoi cyngor cywir. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ymdrin yn brydlon ac yn briodol ag ymholiadau, gan nodi a, lle bo modd, diwallu anghenion pobl cyn gynted â phosibl. Bydd yr unigolyn cywir yn gallu cydnabod a oes unrhyw bryderon diogelu ac yn gallu ymgynghori a chysylltu â Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol/asiantaethau partner eraill, yn ôl yr angen.

Mae'r rôl hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn wydn wrth reoli galwadau niferus yn effeithiol a meddu ar y gallu i flaenoriaethu ac addasu i anghenion eu llwyth gwaith. Bydd gennych y sgiliau i aros yn ddigynnwrf o dan bwysau a byddwch yn gallu ysgogi eich hun mewn amgylchiadau heriol. Bydd angen i'r ymgeisydd fod yn gyfarwydd â defnyddio mapiau proses sy'n darparu atgyfeiriadau effeithlon i'w gwneud gyda'n partneriaid atgyfeirio.

Bydd gwybodaeth fanwl a chyfredol o wasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd, y gallu i weithio ar draws systemau gweinyddol a gwybodaeth ymarferol gadarn o feddalwedd Microsoft yn ategu eich gallu i flaenoriaethu llwythi gwaith.


Gwybodaeth Ychwanegol


I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Bethany Keenan [email protected] Arweinwyr Tîm Porth i Deuluoedd.

1 contract llawn amser parhaol ar gael

2 gontract amser llawn dros dro ar gael tan 31 Mawrth 2024

1 contract amser llawn dros dro ar gael tan 31 Gorffennaf 2024

Mae pob contract yn 37 awr yr wythnos.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog enwebedig ar raddfa heb fod yn is na OM2 neu'r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff mewn ysgolion all gymeradwyo ceisiadau.

Mae'r swyddi hyn yn amodol ar wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

  • Canllawiau Gwneud Cais
  • Gwneud cais am swydd â ni
  • Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

  • Siarter y Gweithwyr
  • Recriwtio Cyn-droseddwyr
  • Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02989

Welsh Headings
Cardiff Council

www.cardiff.gov.uk
Cardiff, United Kingdom
Heather Joyce
$25 to $50 million (USD)
1001 to 5000 Employees
Government
Municipal Agencies
Related Jobs

All Related Listed jobs

Assistant, Copyright
Kobalt Music Group London, England Today

You handle various queries from Collection Societies (PRS, ASCAP etc.). The team is responsible for the essential final stages in Kobalt's copyright processes,

team member
Brewers Fayre Highwayman Lancaster, England 21882 - GBP HOURLY Today

We're currently recruiting in our Cottams Field Brewers Fayre. Working 32 hours per week, paying up to £10.52 per...

Administrator Part Time - Deaf Community Service
St Andrew's Healthcare Northampton, England 17400 GBP ANNUAL Today

You will be ready to play a pivotal role in our team and will have an excellent track record of delivering a quality administrative service while dealing with

Head of Education Programmes
Social Work England Sheffield, England 56101 - 58218 GBP ANNUAL Today

Use our education and training standards to proactively embed equality, diversity and inclusion principles across the education programme and to enhance the

Part time Cleaner 16 hours per week - Leicester
Company Shop Leicester, England 10.5 GBP HOURLY Today

The successful candidate will be required to undertake various hygiene tasks including general hygiene cleaning of shop, warehouse and equipment, in addition to