Job description
Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Nghastell Caeriw i Tywysydd Darganfod ymuno tîm brwdfrydig o unigolion sy’n ymroddedig i gyflwyno profiadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr mewn lleoliad ysblennydd.
Mae i Gastell Caeriw, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, hanes hudolus sy’n rhychwantu dros 2000 o flynyddoedd a mwy. Enillodd y castell wobr yng Ngwobrau Twristiaeth Sir Benfro 2018 yn y categori Atyniad Gorau i Ymwelwyr.
Ynglyn â'r swydd:
- Esbonio’r safle a’r Parc Cenedlaethol fel bod pob ymwelydd yn mwynhau’r lle
- Croesawu ymwelwyr a delio ag ymholiadau a chwestiynau
- Gwerthu tocynnau mynediad, tocynnau digwyddiadau a nwyddau masnach
- Cadw at weithdrefnau ariannol y cytunwyd arnynt ar gyfer y safle, gan gynnwys rhedeg y til, trin arian ac ati.
- Sicrhau bod y safle yn edrych yn dda ac o safon uchel i ymwelwyr, gan gynnwys glanhau/cynnal-a-chadw sylfaenol yn y Castell
- Cymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno'r rhaglen o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Rhaglen Addysgol ar gyfer ysgolion, gweithgareddau gwyliau, digwyddiadau fin nos a theithiau mewn gwisgoedd y cyfnod.
- Arwain teithiau tywys
- Profiad o weithio mewn busnes adwerthu
- Y gallu i ymgymryd â gofynion y swydd, e.e. arwain teithiau tywys, sicrhau bod y cyfleusterau sydd ar y safle yn lân.
- Parodrwydd a diddordeb brwd mewn cymryd rhan yn y Rhaglen Addysg, gan gyflawni gweithgareddau a digwyddiadau yn gwisgo gwisg y cyfnod ac yng ngwisg y Parc.
- Y gallu i gyfathrebu yn hawdd â chydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd
- Y gallu i ddysgu'n gyflym ac i gweithio fel rhan o dîm ac ar eich liwt ei hun
Cyflog:
£10.50 - £10.62 yr awr / Rhan amser (3 diwrnod yr wythnos (22.5 awr) ar rota 7 diwrnod). Swyddi tymhorol rhwng 3 Ebrill a dechrau Tachwedd 2023.
Disgrifiad Llawn o’r Swydd ar gael drwy lawrlwytho.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Dyddiad Cau: 21/03/2023
Rydym yn neilltuo’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.