SWYDDOG SEIBERDDIOGELWCH (YSGOLION)

SWYDDOG SEIBERDDIOGELWCH (YSGOLION) Cardiff, Wales

Cardiff Council
Full Time Cardiff, Wales 36298 - 40478 GBP ANNUAL Today
Job description

Am Y Gwasanaeth

Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor.
Prif swyddogaethau’r adran yw:
  • darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad
  • rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau
  • cyfrannu at y gwaith o gyflawni ymgyrch Dewis Digidol y Cyngor

Mae’r Gwasanaeth TGCh yn ymdrin â sawl swyddogaeth, gan gynnwys:
  • y Ddesg Gymorth
  • timoedd Systemau Menter a Data, sy’n gyfrifol am ddatblygu, rhoi cymorth a chynnal a chadw rhaglenni a ddatblygwyd yn fewnol yn ogystal â rhaglenni trydydd parti
  • timoedd Gwasanaethau TGCh sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â ’r rhwydwaith, y gweinydd a’r defnyddwyr olaf
  • Diogelwch a Chydymffurfiaeth
  • Pensaernïaeth Menter


Am Y Swydd

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Datblygu, rheoli a monitro’r rhaglen sicrwydd diogelwch a chydymffurfiaeth TGCh ar gyfer Seiberddiogelwch, sy'n cwmpasu bygythiadau cyfredol ac sy’n esblygu i dechnoleg ar draws y cyngor, yr awdurdod addysg lleol ac ysgolion unigol.
  • Cydlynu a dogfennu'n effeithiol y gofynion cydymffurfio Seiberddiogelwch ar gyfer ysgolion, yn ôl y galw ac yn unol â pholisïau sefydliadol, safonau'r cyngor, deddfwriaeth, cydymffurfiaeth a rhwymedigaethau cytundebol, ac arfer gorau'r diwydiant.
  • Gweithio'n rhagweithiol gydag uwch swyddogion gan gynnwys y Pennaeth, swyddogion TGCh a Llywodraethu Gwybodaeth, a rhanddeiliaid perthnasol eraill ar draws y sefydliad i sicrhau bod gofynion Seiberddiogelwch yn cael eu diffinio, a’u cadw atynt a bod asesiad blynyddol a phroses sicrwydd yn cael eu cwblhau a'u hadrodd ymlaen.
  • Adolygu'n rhagweithiol sicrwydd Seiberddiogelwch ar draws ysgolion Caerdydd, gan ddogfennu ac amlygu unrhyw fylchau neu risgiau a, lle bo'n bosibl, gweithredu gwaith adfer neu argymhellion.
  • Ymateb i ddigwyddiadau diogelwch TG gan ymchwilio a dadansoddi, dogfennu digwyddiadau a gwneud argymhellion i sicrhau nad ydynt yn digwydd eto.
  • Monitro am dôr-diogelwch, ymosodiadau, ymyraethau neu weithgareddau anarferol eraill gan gynnwys hunaniaeth a rheoli mynediad a chamddefnydd posibl o ganiatâd gan ddefnyddwyr system awdurdodedig.
  • Bod yn brif bwynt cyswllt i'r Cyngor mewn perthynas â gofynion sicrwydd a chydymffurfiaeth Seiberddiogelwch i holl ysgolion Caerdydd, cymryd cyfrifoldeb personol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau yn y dirwedd a deddfwriaeth Seiberddiogelwch a sicrhau bod unrhyw ddogfennau, cyngor a chanllawiau yn gyfredol ac yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol sy'n gysylltiedig â gofynion cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg.
  • Cynnal profion a dadansoddi caledwedd / meddalwedd gan ddefnyddio technegau priodol a gweithdrefnau profi i sicrhau cydymffurfiaeth Seiberddiogelwch o ran atebion technoleg ar draws seilwaith TGCh Ysgolion.
  • Profi a gwerthuso cynhyrchion diogelwch a, lle bo angen, dylunio a gweithredu systemau diogelwch newydd neu uwchraddio'r rhai presennol.
  • Datrys problemau perfformiad, diffygion, a namau cysylltiedig o ran diogelwch.
Ymateb i broblemau a cheisiadau gan gynnwys y rheiny a gyflwynir trwy Ddesg Gymorth yr adran TGCh, gan flaenoriaethu a rhoi sylw i’r manylion perthnasol er mwyn galluogi ymchwiliadau effeithiol.
  • Sicrhau bod rhwydweithiau'n cael eu diogelu rhag maleiswedd a feirysau, gan nodi meysydd a allai fod dan fygythiad a meysydd lle gellir gwella diogelwch, gan sicrhau y meddir ar y wybodaeth ddiweddaraf am seiber-fygythiadau sy'n newid yn barhaus.
  • Rhoi cyngor ac arweiniad ar gamau cynllunio prosiectau TGCh i sicrhau bod yr holl ofynion Seiberddiogelwch yn cael eu bodloni.
  • Cefnogi gweithgareddau a mentrau gwella gwasanaeth a chyfrannu atynt.
  • Cyfrannu at berfformiad, amcanion, targedau a chyflawni safonau ansawdd y Gwasanaeth.
  • Cynnal perthnasoedd effeithiol â staff technegol a staff cymorth i sicrhau bod gofynion systemau a gwybodaeth yn cael eu nodi a’u bodloni.
  • Datblygu, adolygu a chynnal cynlluniau, polisïau, prosesau a gweithdrefnau’r gwasanaeth.
  • Cymryd cyfrifoldeb personol am eich iechyd a’ch diogelwch a hyrwyddo cydymffurfiaeth gan sicrhau amgylchedd gwaith diogel.


Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

  • Hanes o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
  • Profiad o reoli Seiberddiogelwch gan gynnwys atal, monitro a chanfod digwyddiadau, ymosodiadau, ymyraethau a gweithgareddau anarferol, anawdurdodedig neu anghyfreithlon eraill.
  • Gwybodaeth a phrofiad o adfer trychinebau a gwaith cynllunio wrth gefn a rheoli digwyddiadau mewn ymateb i achosion o dôr-diogelwch
  • Y gallu i adnabod gwendidau posibl mewn gwasanaethau a systemau TGCh a gweithredu mesurau amddiffynnol.
  • Profiad o ymchwilio i rybuddion, digwyddiadau neu achosion o dôr-diogelwch a darparu ymatebion, argymhellion a gwaith adfer.
  • Gwybodaeth a phrofiad o ddylunio, profi, gosod, cefnogi a chynnal cynhyrchion diogelwch TGCh.
  • Hanes o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.


Gwybodaeth Ychwanegol


Dylech wneud cais am y swydd hon gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein trwy glicio ar y botwm "Gwneud cais nawr" ar y dudalen hon. Os nad yw’n bosibl i chi wneud cais ar-lein, gallwch ofyn am becyn cais drwy ffonio (029) 20872222 a dyfynnu cyfeirnod y swydd.

Rhan Gwybodaeth Ategol y cais yw’r rhan bwysicaf. Talwch sylw manwl iddi. Dyma lle rydych yn dweud wrthym beth sy'n eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd a bydd yn cael ei hasesu yn erbyn y cymwyseddau hanfodol a dymunol yn ein Pecyn Recriwtio ar gyfer y swydd wag hon.

Dylech gyfeirio at bob cymhwysedd yn y Pecyn Recriwtio, gan roi tystiolaeth o’r sgiliau, y profiad a’r wybodaeth sydd gennych ym mhob maes a rhoi enghreifftiau ymarferol. Bydd methu â chwblhau'r adran hon yn lleihau’n fawr y tebygrwydd o gael eich rhoi ar y rhestr fer.

Mae'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i wneud cais am y swydd hon wedi'i chynnwys yn y Pecyn Recriwtio hwn a'r Canllaw ar Wneud Cais.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, fe'ch gwahoddir i gyfweliad ar gyfer y rôl hon a fydd yn cael ei gynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Huw David ([email protected]) i drafod

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais
  • Canllawiau Gwneud Cais
  • Gwneud cais am swydd â ni
  • Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol
  • Siarter y Gweithwyr
  • Recriwtio Cyn-droseddwyr
  • Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00928

SWYDDOG SEIBERDDIOGELWCH (YSGOLION)
Cardiff Council

www.cardiff.gov.uk
Cardiff, United Kingdom
Heather Joyce
$25 to $50 million (USD)
1001 to 5000 Employees
Government
Municipal Agencies
Related Jobs

All Related Listed jobs

Teaching Fellow Psychology
Coventry University Coventry, England 35839 - 50966 GBP ANNUAL Today

We require staff without a recognised teaching qualification to undertake the Post-Graduate Certificate in Academic Practice in Higher Education as part of the

SHSCT Support Worker Band 3 Permanent
Health and Social Care Trust Newry, Northern Ireland 20000 - 22000 GBP ANNUAL Today

Thu, 02 March 2023 @ 4:00 PM. Successful applicants have the opportunity to request Flexible Working from the 1st day of their employment.

Digital Marketing Manager
Gravitate Exeter, England 50000 - 70000 GBP ANNUAL Today

Now embarking on a new phase that will leverage their online community of loyal customers whilst developing a multi-channel approach that will increase

store manager
Holiday Inn Nottingham, England 23130 - GBP HOURLY Today

The Holiday Inn Nottingham is looking for a Night Duty Manager who is genuine, friendly and resourceful. A person who cares enough to go...

bartender
ETM Group London, England 30160 - GBP HOURLY Today

Nobody said it was easy to work behind the bar. Bartending is hard work and this is part of what makes it so rewarding.

Successful Bar...