Job description
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn talentog a brwdfrydig i fod yn rhan o’n campws arobryn a hynod lwyddiannus, Llwyn y Bryn, a leolir yn ardal fywiog Uplands. Mae Llwyn y Bryn yn gampws amrywiol sy’n cynnwys pedwar maes dysgu gwahanol, sef Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), Y Celfyddydau Gweledol, Addysg Sylfaenol i Oedolion (ASO) a Pherfformio Cerdd. Hoffem gael ceisiadau gan unigolion â phrofiad mewn rôl arweinyddiaeth neu gydlynu ac sy’n angerddol am ddysgu ac addysgu, arloesedd cwricwlwm a sicrhau bod ein dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn.
Y rôl:
Gweithio gyda Rheolwr y Maes Dysgu gan ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i’r Maes Dysgu a chyfarwyddyd clir i staff gan eu galluogi, eu hysbrydoli, eu cymell a’u cefnogi i ddarparu addysg o’r safon uchaf.
- Llawn Amser, 37 awr yr wythnos
- Parhaol
- Cyflog: £44,786 - £46,249
- Llwyn Y Bryn Campws
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Cynorthwyo i reoli’r Maes Dysgu gan gynnwys cwricwlwm, ansawdd, cyllidebu, lleoli staff, rheoli perfformiad a rheoli dysgwyr.
- Cefnogi Rheolwr y Maes Dysgu i sicrhau addysgu, dysgu a chanlyniadau o’r safon uchaf o fewn y Maes Dysgu.
- Cefnogi Rheolwr y Maes Dysgu i arddel ymagwedd gyson at reoli dysgwyr.
Amdanoch chi:
- Cymhwyster Addysgu Cydnabyddedig (TAR neu’r cyfwerth)
- Gradd neu gymhwyster perthnasol cyfwerth
- Gwybodaeth o faterion cyfredol sy’n wynebu Colegau AB gan gynnwys datblygiadau cwricwlwm gyda gwerthfawrogiad cadarn o Ddysgu Seiliedig ar Waith
- Gwybodaeth o fethodolegau cyllid AB gan gynnwys AU, DSW, Dysgu Oedolion yn y Gymuned, 14-16.
- Gwybodaeth o ddatblygu’r cwricwlwm i wella dilyniant a chyfleoedd cyflogadwyedd e.e. sgiliau hanfodol
Buddion:
- 37 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23.68% ar gyfartaledd (2023)
- Mynediad at driniaethau holistaidd a chyflenwol
- Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).