Job description
About The Role
This role is an opportunity for a Paralegal to join a large, fast paced in-house legal team and work on a broad range of matters. The successful candidate will be required to support a team of six lawyers with legal research, drafting and advice tasks. The candidate will be required to work across areas of law including but not limited to information law, intellectual property, contracts, procurement, trusts, charity, litigation, insolvency, subsidy and state aid, public law and judicial review.
In addition to providing research, drafting and general support to the Fund’s lawyers, it is expected that the Paralegal will handle matters under supervision and use legal knowledge to improve the Fund’s internal processes and precedents.
The bulk of the Paralegal’s workload will consist of legal support work, however the candidate will also be expected to perform some administrative tasks, and cover for the team’s administrative officer when required.
This role can be based at any of our UK offices, these are Belfast, Birmingham, Cardiff, Exeter, Glasgow, Leeds, London, Newcastle and Newtown. It will be working with six lawyers, who are part of an overall team of twelve. The role does not include any line management responsibilities.
Experience working in a fast paced in-house or private practice environment would be ideal, with legal research and drafting skills an advantage. Knowledge of insolvency and debt recovery would also be desirable.
Interview Date: Week Commencing 20th March 2023
Location: UK Wide
We have a hybrid approach to working, work pattern and location will be agreed with the successful candidate. The role can be based at any of our UK offices, these are Belfast, Birmingham, Cardiff, Exeter, Glasgow, Leeds, London, Newcastle and Newtown.
For successful candidates based in London, you will be asked to complete national security vetting clearance so that you can access our Marsham Street Office. This involves passing a disclosure and barring check and Counter Terrorism Check.
If you would like an informal conversation about this role, please contact: [email protected]
- Legal research
- Organizational skills
- Legal drafting and written skills
- Communication and teamwork
- Proficiency with computer systems including Outlook, Teams and online file management databases
- Familiarity with Practical Law
- Experience with insolvency and debt recovery
- Experience in Public Law
Communities in the UK come in all shapes and sizes. National Lottery funding is for everyone – therefore, we are committed to equity, diversity and inclusion and we work hard to ensure our funding reaches where it is needed.
We also believe our people should represent the communities, organisations and individuals we work with. That’s why the National Lottery Community Fund is committed to being an inclusive employer and a great place to work. We recognise and celebrate the fact that our people come from diverse backgrounds. We positively welcome applications from people from ethnic minority backgrounds, people with disabilities or longstanding health conditions, people who are LGBTQ+, and people from different socio-economic and educational backgrounds, as well as people of all ages.
As a Disability Confident Employer, we take a proactive approach in making reasonable adjustments, if needed, throughout the recruitment process and during employment. (This can be related to a physical and mental health condition.)
About The Role
Mae’r rôl hon yn gyfle i Baragyfreithiwr ymuno â thîm cyfreithiol mewnol mawr, prysur a gweithio ar amrywiaeth eang o faterion. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi tîm o chwe chyfreithiwr gyda thasgau ymchwil cyfreithiol, drafftio a chynghori. Bydd gofyn i'r ymgeisydd weithio ar draws meysydd y gyfraith gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gyfraith gwybodaeth, eiddo deallusol, contractau, caffael, ymddiriedolaethau, elusennau, ymgyfreitha, ansolfedd, cymorthdaliadau a chymorth gwladwriaethol, cyfraith gyhoeddus ac adolygiad barnwrol.
Yn ogystal â darparu ymchwil, drafftio a chymorth cyffredinol i gyfreithwyr y Gronfa, disgwylir y bydd y Paragyfreithiwr yn ymdrin â materion dan oruchwyliaeth ac yn defnyddio gwybodaeth gyfreithiol i wella prosesau a chynseiliau mewnol y Gronfa.
Bydd y rhan fwyaf o lwyth gwaith y Paragyfreithiwr yn cynnwys gwaith cymorth cyfreithiol, fodd bynnag bydd disgwyl i'r ymgeisydd hefyd gyflawni rhai tasgau gweinyddol, a chyflenwi ar gyfer swyddog gweinyddol y tîm pan fo angen.
Gall y rôl fod yn unrhyw un o’n swyddfeydd yn y DU (Belfast, Birmingham, Caerdydd, Exeter, Glasgow, Leeds, Llundain, Newcastle a’r Drenewydd). Byddwch chi’n gweithio gyda chwe chyfreithiwr, sy’n rhan o dîm ehangach o ddeuddeg. Nid yw’r rôl yn cynnwys unrhyw gyfrifoldebau rheolwr llinell.
Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd practis mewnol neu breifat prysur yn ddelfrydol, gyda sgiliau ymchwil cyfreithiol a drafftio yn fanteisiol. Byddai gwybodaeth am ansolfedd ac adennill dyledion hefyd yn ddymunol.
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth 2023
Lleoliad: DU Cyfan
Mae gennym ddull hybrid o weithio, bydd y patrwm gwaith a lleoliad yn cael ei gytuno arno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod yn unrhyw un o’n swyddfeydd yn y DU (Belfast, Birmingham, Caerdydd, Exeter, Glasgow, Leeds, Llundain, Newcastle a’r Drenewydd).
Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus yn Llundain, bydd gofyn i chi gwblhau cliriad diogelwch cenedlaethol fel y gallwch chi gyrchu ein swyddfa ar Stryd Marsham. Mae hyn yn golygu pasio gwiriad datgelu a gwahardd a Gwiriad Gwrthderfysgaeth.
Os hoffech chi gael trafodaeth cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at: [email protected]
- Ymchwil gyfreithiol
- Sgiliau trefnu
- Sgiliau drafftio ac ysgrifennu cyfreithiol
- Cyfathrebu a gwaith tîm
- Gallu defnyddio systemau cyfrifiadurol gan gynnwys Outlook, Teams a chronfeydd data rheoli ffeiliau ar-lein
- Cyfarwydd â Chyfraith Ymarferol
- Profiad gydag ansolfedd ac adennill dyledion
- Profiad mewn Cyfraith Gyhoeddus
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob lliw a llun. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – felly, rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Rydym hefyd yn credu y dylai ein pobl gynrychioli’r cymunedau, sefydliadau ac unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Dyna pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac yn lle gwych i weithio. Rydym yn cydnabod ac yn dathlu’r ffaith bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn croesawu’n gadarnhaol geisiadau gan bobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig, pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirsefydlog, pobl LHDTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol gwahanol, yn ogystal â phobl o bob oed.
Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cymryd agwedd ragweithiol tuag at wneud addasiadau rhesymol, os oes angen, drwy gydol y broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. (Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflwr iechyd corfforol a meddyliol.)