Hyfforddwr Bugeiliol

Hyfforddwr Bugeiliol Swansea, Wales

Gower College Swansea
Full Time Swansea, Wales 22685 - 24665 GBP ANNUAL Today
Job description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi dysgwyr mewn ffordd newydd.

Bydd y Cyfarwyddwr Ystadau yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar weithgarwch ystadau a chyfleusterau’r Coleg, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch a Reprograffeg.

  • Parhaol - Rhan-amser tan at 30 Mehefin 2023
  • £22,658 - £24,665 per annum

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Gweithio’n rhagweithiol gyda dysgwyr a staff y Coleg (tiwtoriaid a gwasanaethau cymorth) i wella presenoldeb, cadw a chyrhaeddiad a mynd i’r afael â materion ymddygiadol cyffredinol.
  • Gweithio gydag Arweinydd CGA Egnïol, swyddogion Cymorth Myfyrwyr a phob gwasanaeth Cymorth er mwyn darparu cymorth ychwanegol yn ôl yr angen i gefnogi anghenion dysgwyr.
  • Diweddaru’r tîm Rheoli Maes Dysgu yn rheolaidd ar gadw, cynnydd a lles dysgwyr drwy fynychu cyfarfodydd a llunio adroddiadau wythnosol.

Amdanoch chi:

  • Profiad o weithio gyda phobl 14-19 oed mewn amgylchedd addysgol.
  • Y gallu i ysgogi ac uniaethu â phobl ifanc
  • Bod yn hyderus yn cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol gyda gwahanol grwpiau o bobl

Buddion:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Parcio am ddim
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Hyfforddwr Bugeiliol
Gower College Swansea

www.gowercollegeswansea.ac.uk
Swansea, United Kingdom
Nick Bennett
$5 to $25 million (USD)
501 to 1000 Employees
College / University
Colleges & Universities
Education
2010
Related Jobs

All Related Listed jobs

Care Assistant for Rothwell - (Late Shifts, Walkers)
Be Caring Leeds, England 11 GBP HOURLY Today

Paid induction training: 1 week classroom-based (Monday - Friday), 2 days shadowing and additional online modules. 25 birthday gift voucher.

Hollister Co. - Brand Representative, Ashford Designer Outlet
Hollister Co. Stores Ashford, Kent, South East England, England 19343 - 29700 GBP ANNUAL Today

Demonstrates relatable, confident and highly social behaviors on the sales floor that translate into closing the sale. Store Presentation and Sales Floor.

Administrator - Nottingham (NG16) - £12.00 - Immediate Start
Blue Arrow Nottingham, England 12 GBP HOURLY Today

Role: Administrator Hours/Days: Monday to Friday 09:00am-17:00pm Pay Rate: 12.00 per hour Contract: 8 weeks initially but temp to perm roles available for

Cleaner
ISS Facility Services Manchester City Centre, England 10.42 GBP HOURLY Today

Be able to communicate with all site users in a polite manner. Part-time hours: 15 per week. Deliver the highest level of cleaning service within your area of

Weekend Receptionist
Freedog/Flashpoint Swindon Ltd Swindon, Wiltshire, South West England, England 10 GBP HOURLY Today

Have knowledge of all Flashpoint and Freedogs products and services to ensure customers are advised of the right product for their needs.