Job description
Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn (£10.90 ar awr) pro-rata yn y rôl Hyfforddai hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rhaid i chi fod yn byw yng Nghaerdydd i wneud cais am y rôl hon a gallwch wirio a yw’ch cod post o fewn ffiniau Caerdydd yma: http://ishare.caerdydd.gov.uk/myCardiffWelsh.aspx
Mae ein Tîm Hybiau’r De yn gobeithio cyflogi 2 Hyfforddai Corfforaethol i weithio ar draws Hybiau’r De :
Hyb Grangetown - Plas Havelock, Grangetown, Caerdydd CF11 6PE.
Hyb STAR - Heol Muirton, Y Sblot, Caerdydd CF24 2SJ
Hyb Ieuenctid Pafiliwn Butetown - Heol Dumballs, Butetown, Caerdydd CF10 5FE
Hyb Butetown - Plas Iona CF10 5HW
Mae ein tîm yn darparu gwasanaeth wyneb i wyneb i ddinasyddion Caerdydd. Rydym yn cynnig cymorth a chefnogaeth gyda Chredyd Cynhwysol, Budd-daliadau Lles, Treth Gyngor, Tai, tocynnau bws i’r henoed a’r anabl, prydau ysgol am ddim, addysg, archebion gwastraff swmpus, ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor gan gynnwys llyfrgelloedd a digwyddiadau mewn hybiau cymunedol.
Hyb Ieuenctid Pafiliwn Butetown yw'r hyb ieuenctid cyntaf yn y ddinas. Mae'r cyfleuster yn darparu man newydd lle mae’r ddarpariaeth gwasanaeth ieuenctid bresennol yn cael ei hategu gan wasanaethau ychwanegol. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u hanelu at helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer gwaith, gan ganolbwyntio ar yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol yn ogystal â helpu i gynnwys pobl ifanc mewn ystod eang o gyfleoedd hyfforddi.
Am Y Swydd
Yn y rôl Hyfforddai Corfforaethol hon, byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth ac yn datblygu sgiliau gweinyddu swyddfa cyffredinol, e.e. defnyddio Word ac Excel, ateb y ffôn, defnyddio TG bob dydd, helpu cwsmeriaid gyda’u hymholiadau a datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Byddwch hefyd yn darparu gwasanaeth blaen y tŷ ac yn cefnogi cwsmeriaid i hunan-wasanaethu'n ddigidol lle bo hynny'n bosibl.
Bydd tîm y gwasanaeth yn eich helpu ac yn eich annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae'r Cynllun Hyfforddai Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.
Mae hybiau cymunedol ar agor rhwng 9am a 6pm gan gau am 7pm un noson yr wythnos, a rhwng 9am a 5.30pm ar ddydd Sadwrn. Bydd gofyn i chi weithio yn ôl rota a bydd hyn yn cynnwys rhywfaint o waith gyda’r nos ac ar y penwythnos. Hefyd, gallai fod angen i chi weithio o Bafiliwn Butetown ar sail rota, sydd â’r oriau agor canlynol: 9am-10:00pm.
Caiff hyfforddiant llawn ei roi gan ein tîm fydd yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae'r Cynllun Hyfforddai a Phrentis Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Mae ein Hyfforddeion Corfforaethol yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Sumia Ayed 02922 330001
I fod yn gymwys i wneud cais am y rôl hon rhaid i chi fod yn byw yng Nghaerdydd. Cadarnhewch fod eich cod post o fewn ffiniau Caerdydd yma http://ishare.caerdydd.gov.uk/myCardiffWelsh.aspx
Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Dyma swydd dros dro am 6 mis os caiff ei gweithio'n llawn amser neu'n hirach os caiff ei gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser.
Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyflog hwn sy’n dod â’r gyfradd tâl sylfaenol i £9.90 yr awr. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i Dâl Atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o arwyddnodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.
I gefnogi eich cais, neu gyfweliad posibl yn y dyfodol, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook, Instagram, drwy danysgrifio i’n Sianel YouTube, neu drwy fynd i’n gwefan www.caerdydd.gov.uk . Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaeth i Mewn i Waith ar www.imewniwaithcaerdydd.co.uk
Job Reference: PEO02421