Job description
Gwnewch newid na fyddwch yn difaru; dod yn Weithiwr Cymdeithasol yn y lle hapusaf yng Nghymru
Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer ei Dîm Iechyd ac Anabledd Plant yn ei Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi creu nifer o swyddi i ychwanegu capasiti a gwydnwch ar draws ein timau. Yn weithiwr Cymdeithasol ym Mro Morgannwg bydd gennych lwyth gwaith hawdd ei reoli, cewch gymorth rhagorol a chewch amser i'w dreulio gyda phlant a phobl ifanc.
Gallwch ddisgwyl cynhesrwydd a lefelau uchel o gymorth gan weithlu ymroddedig ac Awdurdod lle mae lles a datblygiad yn ganolog i'n gwaith.
Dyma gyfle arbennig i ymgartrefu mewn Awdurdod sydd â hanes llwyddiannus o wneud gwahaniaeth a pherfformio’n rhagorol. Mae perthnasau’n ganolog i'n gwaith, ac rydym yn hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar gryfder ym mhopeth a wnawn.
Ewch i’n tudalen Swyddi Gwasanaethau Plant bwrpasol i ddarllen am y Weledigaeth, y Timau a'r Manteision i Weithwyr.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/jobs/Children-Services-Jobs/Children-Services-Jobs.aspx
Ynglŷn â'r rôl
Manylion am gyflog: Gradd 8, PCG 26 – 30 £32, 909 - £36, 298 y.f. / Gradd 9, PCG 31 – 35 £37, 261 - £41, 496 y.f.
Cyflog wrth benodi’n dibynnu ar gymwysterau a phrofiad fel y penderfynir gan y swyddog penodi. Nid oes cynnydd awtomatig o Radd 8 i Radd 9
Oriau Gwaith: 37 awr / Llawn amser
Prif Waith: Swyddfa’r Dociau, Y Barri
Angen Gwiriad DBS: Manwl
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Gradd/diploma cydnabyddedig neu gymhwyster cyfatebol mewn Gwaith Cymdeithasol e.e. Gradd, Diploma Gwaith Cymdeithasol, CQSW ac ati.
- Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
- Profiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr.
- Profiad o weithio amlasiantaethol
- Gwybodaeth am egwyddorion y Ddeddf Plant, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), canllawiau a safonau cenedlaethol.
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael mwy o wybodaeth.
Mwy o wybodaeth am y timau:
Mae gweithwyr cymdeithasol yn ein Tîm Iechyd ac Anabledd Plant yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu difrifol neu arwyddocaol, anabledd corfforol, nam ar y synhwyrau, neu nam cyfathrebu dwys. Mae ganddynt gysylltiadau aml-asiantaeth cryf, yn enwedig gyda Iechyd. Byddwch yn chwarae rhan wrth ymateb i atgyfeiriadau newydd i'r tîm ac wrth sicrhau ein bod yn darparu ymateb cychwynnol effeithiol a byddwn yn datblygu perthnasoedd tymor hwy gyda theuluoedd i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Bydd y gwaith yn bwrpasol a bydd risgiau'n cael eu rheoli'n hyderus. Mae digon o adnoddau gan y Tîm i alluogi gweithwyr i weithredu mewn ffordd amserol ond hefyd gydag amser i fyfyrio.
Ym mhob un o'r timau, gall gweithwyr fod yn garedig ac yn gyson a gallant ganolbwyntio ar eu gwaith gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr. Mae rheolwyr ar gael yn rhwydd ac mae lles y staff yn flaenoriaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhowch eich manylion cyswllt yma i ni gysylltu. Unwaith y byddwn wedi trafod y rôl sydd ar gael ac wedi ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer a symud eich cais ymlaen.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu gwnewch gais ar-lein:
Alison Woolcock, Rheolwr Tîm, 01446 725202
Job Reference: SS00565