Job description
Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd.
Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig amlddisgyblaethol yn cynnig amgylchedd gwaith prysur a diddorol fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas. Byddwch yn gweithio fel aelod o dîm sy'n cynnal asesiadau lles gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau o ran eich ymarfer, gan weithio gyda phobl i hyrwyddo a gwneud y mwyaf o fyw'n annibynnol.
Am Y Swydd
Mae'r ddwy yn swyddi parhaol - un yn rhan-amser (LINKS 18.5 awr yr wythnos) ac un yn llawn amser (PENTWYN 37 awr yr wythnos).
Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth arnoch. Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol. Yn ddelfrydol byddwch yn Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP) y mae taliad AMHP yn daladwy ar ei gyfer, neu’n fodlon cyflawni hyfforddiant yn y maes. Mae profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl hefyd yn ofynnol.
Bydd angen profiad o asesu anghenion dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 arnoch a phrofiad o gynllunio Gofal a Thriniaeth mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl. At hynny, mae angen profiad o gynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal a chynlluniau rheoli risg cysylltiedig arnoch. Byddwch yn fodlon dilyn hyfforddiant priodol ac yn gallu gweithio dan bwysau.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn awyddus i recriwtio gweithiwr cymdeithasol profiadol. Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac sydd am weithio mewn maes gwaith cyflym, deinamig ac amrywiol.
- Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwys a phrofiadol ac wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn am y fframwaith deddfwriaethol sydd ar waith.
- Byddwch wedi ymrwymo i ddarparu sesiynau goruchwylio rheolaidd i aelodau'r tîm, gan gymryd rôl arweiniol mewn grwpiau mentora a chynnal archwiliadau o ansawdd.
- Byddwch yn ymrwymedig i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddiant, mynychu sesiynau cymorth cymheiriaid a goruchwylio.
- Byddwch yn gallu ymarfer o safbwynt sy'n seiliedig ar gryfder.
- Byddwch am weithio ym mhrifddinas Cymru lle rydym yn cefnogi ein gilydd ac yn gweithio gyda'n gilydd â chydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn arnoch a char y gallwch ei ddefnyddio yn ystod oriau gwaith. Telir lwfans priodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl derbyn y disgrifiad swydd a’r fanyleb person llawn, cysylltwch â Sarah Skelly, Rheolwr y Tîm Gwaith Cymdeithasol yn TIMC Links (Ffôn: 029 2055555) neu TIMC Pentwyn (Ffôn: 029 21833650).
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’r swydd yn addas i'w rhannu.
Mae diogelu oedolion ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor a'n nod yw cefnogi plant ac oedolion i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, gall y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio Microsoft Teams. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y disgrifiad swydd a’r fanyleb person, cysylltwch â Sarah Skelly, Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol yn YIMC Links (Ffôn: 029 2055555) neu TIMC Pentwyn (Ffôn: 029 21833650).
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllaw ar gyfer Gwneud Cais
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Job Reference: PEO02561