Job description
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm ymroddedig o weithwyr ieuenctid proffesiynol sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a thimau gwaith ieuenctid ar y stryd gyda phob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau creadigol sy’n annog cyfranogiad a datblygiad pobl ifanc mewn cymunedau.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn hyrwyddo cysylltiad cryf rhwng gwaith ieuenctid penodol a chyffredinol sy’n sicrhau y cynigir cymorth cyson i bobl ifanc pan fo angen hynny arnynt. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn annog pobl ifanc i gyflawni eu potensial unigol ac yn eu cefnogi ar eu taith i ddod yn ddinasyddion gweithredol cadarnhaol.
Am Y Swydd
Bydd deiliad y swydd yn dod yn rhan o dîm o weithwyr ieuenctid sydd wedi'u lleoli yng Nghlwb Ieuenctid Llaneirwg sy'n cynllunio, cyflwyno a gwerthuso cwricwlwm o weithgareddau i ymgysylltu â phobl ifanc 14-19 oed.
Mae'r rôl hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus sefydlu a chynnal perthynas waith gadarnhaol a chynhyrchiol gyda phobl ifanc a chyfrannu at y broses o gyflwyno cwricwlwm ffurfiol ac anffurfiol ar y cyd.
Oherwydd natur gwaith ieuenctid, a chefnogi rhaglen a arweinir gan berson ifanc, bydd angen cefnogi digwyddiadau/tripiau preswyl/ymweliadau y tu allan i’r oriau penodedig. Caiff y rhain eu trafod yn ôl yr angen.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gefnogi pobl ifanc i ddatblygu yn eu cyfanrwydd, gan weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, ac i’w galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle yn y gymdeithas ac i gyrraedd eu llawn botensial.
Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid brwdfrydig a deinamig a fydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd i ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc yn ddyddiol.
Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid sydd ag agweddau cadarnhaol a gwydnwch i allu effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar gymhwyster proffesiynol perthnasol mewn gwaith ieuenctid a bydd ganddo hanes o weithio gyda phobl ifanc i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
Mae'r swydd hon yn rhan amser a bydd yn gweithio 3 awr yr wythnos ar nos Wener (44 wythnos o'r flwyddyn). Fodd bynnag, mae’r cyflog a ddangosir ar gyfer 37 awr yr wythnos, felly caiff ei roi ar sail pro-rata yn unol â hyn
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini:
- dan 25 oed
- nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
- o’n cymunedau lleol gan gynnwys yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a phobl o gymuned pobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd
- sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: EDU00552