![Goruchwylwyr (Achlysurol)](https://i0.wp.com/media.glassdoor.com/sql/763473/gower-college-squarelogo-1396365910971.png)
Goruchwylwyr (Achlysurol) Swansea, Wales
Job description
Available Job Today Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Cynnal arholiadau ar gyfer ymgeiswyr yn unol â rheoliadau’r Corff Dyfarnu.
Mae goruchwylwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal cywirdeb arholiadau allanol a phrosesau asesu. Gall arholiadau gael eu cyflwyno ar bapur ysgrifenedig, ar-lein neu fesul asesiadau dan reolaeth.
- Oriau cyflogaeth dros dro - Oriau Amrywiol
- £10.90 yr awr
- Ar draws amrywiol safleoed - Tycoch, Gorseinon, Llys Jiwbili, Plas Sgeti a Llwyn y Bryn.
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Paratoi lleoliadau ar gyfer arholiadau trwy osod rhifau ymgeiswyr, labeli adnabod, llyfrynnau, papurau arholiad, beiros a phensiliau ac unrhyw offer arall, yn unol â gweithdrefnau llym. Ar gyfer arholiadau ar-lein, bydd gofyn i chi fewngofnodi i bob cyfrifiadur, gan sicrhau bod y feddalwedd gywir ar bob sgrin.
- Gweithredu rheolau a gweithdrefnau arholiadau a bod yn wyliadwrus trwy gydol yr arholiad.
- Cynorthwyo ymgeiswyr cyn, yn ystod ac ar ôl yr arholiad trwy eu cyfeirio at eu seddi, eu cynghori ar offer a ganiateir mewn lleoliadau arholiadau a delio a’u hymholiadau.
- Goruchwylio yn ofalus, gan wneud yn siwr nad yw ymgeiswyr yn siarad yn ystod arholiadau, gan fynd i’r afael ag unrhyw anghysondebau yn syth
Amdanoch chi:
- Leiaf 5 pas TGAU (Graddau A-C) gan gynnwys mathemateg a Saesneg.
- Craffter a llygad am fanylder
- Gallu datrys problemau
- Gallu dilyn rheoliadau/prosesau dynodedig
- Gweithio mewn tîm
Buddion:
- Parcio am ddim
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.