Job description
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn elusen restredig sydd yn berchen ar is-gwmni, y cwmni cyfyngedig Masnachu Awen, wedi ei lleoli yn Ne Cymru.
Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan: www.awen-wales.com
Awen Cultural Trust
Awen Cultural Trust is a registered charity with a wholly-owned subsidiary, Awen Trading Ltd, based in South Wales. Our purpose is to make people’s lives better.
For further information please visit our website: www.awen-wales.com
Position:
Sail: Amser Llawn
Cyflog: £24,910 - £27,678 y flwyddyn
Lleoliad: Neuadd Tref Maesteg (gweithio o unrhyw Leoliad Awen)
Yn Atebol I: Rheolwr Theatrau Pen-y-bont ar Ogw
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 26 Ebrill 2023
Rydyn ni’n chwilio am Gynorthwyydd Rhaglen Ddiwylliannol a Sinema i ymuno â’n tîm sy’n tyfu yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Bydd y swydd hon yn rhan bwysig o ddarparu ein rhaglen ddiwylliannol yn ein holl safleoedd a bydd yn cynnwys creu rhaglen ar gyfer yr holl weithgareddau sy’n ymwneud â sinema, ynghyd â chefnogi ein rhaglen ddigwyddiadau ehangach.
Os oes gennych angerdd am theatr a’r celfyddydau a phrofiad o weithio yn y maes, sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych, efallai mai hon yw’r swydd i chi.
Manteision gweithio i Awen;
- Pensiwn 6% cyfatebol
- Gostyngiad o 20% yng Nghaffi Awen
- Cyfle i fanteisio ar Blatfform Buddion Awen (h.y. gostyngiadau mewn siopau ar y stryd fawr, archfarchnadoedd, bwytai, gwyliau a sinema)
- Tocynnau pantomeim am ddim
- Aelodaeth ostyngedig yng Nghanolfan Hamdden Halo
- Cyfle i fanteisio ar Health Assured
- Sefydliad sy’n Ystyriol o Deuluoedd
Basis: Full Time
Salary: £24,910 - £27,678 per annum
Base: Maesteg Town Hall (work from any Awen Venue)
Accountable to: Bridgend Theatres Manager
Closing date : Wednesday 26 April 2023
We’re looking for a Cinema and Cultural Programme Assistant to join our growing team at Awen Cultural Trust. This role will play an important part in delivering our cultural programme across our venues and will involve programming of all cinema related activity, alongside support for our wider events programme.
If you have experience in and a passion for theatre and the arts, excellent communication and organisational skills, this could be the role for you.
Benefits of Working for Awen;
- Pension 6% matched
- 20% discount at Awen Cafe's
- Access to Awen's Benefits Platform (i.e discounts at high street stores, supermarkets, restuarants, holidays and cinema)
- Free Pantomime Tickets
- Discounted membership at Halo Leisure Centre's
- Access to Health Assured
- Family Friendly Organisation
Requirements:
Cliciwch yma ar gyfer amlinelliad llawn y swydd.
Please click here for the full job outline.
Please click here for information about working with us.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am weithio gyda ni.
Other information:
Yn Awen, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein pobl wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym am feithrin diwylliant sefydliadol sy’n gwerthfawrogi pobl o bob cefndir ac sy’n frwd dros wella amrywiaeth yn ein gweithlu.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, ac nid ydym yn gwahaniaethu ar sail anabledd, hil, lliw, ethnigrwydd, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, nac unrhyw gategori arall a ddiogelir gan y gyfraith.
Fel rhan o’n hymrwymiad i wella amrywiaeth yn ein gweithlu, rydym yn darparu cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl neu bobl o’r mwyafrif byd-eang sy’n bodloni gofynion sylfaenol y swydd.
Fel rhan o’r broses ymgeisio, gallwch ofyn am gael eich ystyried yn rhan o’r cynllun hwn os ydych o’r mwyafrif byd-eang, neu os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ‘sylweddol’ neu ‘hirdymor’ ar eich gallu i wneud gweithgareddau beunyddiol arferol. Ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion sylfaenol y rôl, cewch eich gwahodd i gyfweliad.
Y gofynion sylfaenol yw’r meini prawf hanfodol a amlinellir ym manyleb y person ar gyfer pob swydd. Y meini prawf hyn yw’r hyn y bydd angen i ddeiliad y swydd ddangos tystiolaeth ohonynt, drwy ei ffurflen gais.
Er mwyn gwneud cais, cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein, ac os bydd angen fformat hygyrch arall neu unrhyw gymorth arall arnoch gyda’r broses recriwtio, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 01656 754825.
Os cewch eich dewis ar gyfer cyfweliad ac hoffech ymweld â'r ganolfan, anfonwch e-bost i [email protected].
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl hon, e-bostiwch [email protected]
Noder: wrth gyflwyno eich ffurflen gais, cewch neges e-bost yn gofyn i chi gwblhau holiadur Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Defnyddir y data hyn at ddibenion ystadegol yn unig ac nid oes modd adnabod pwy yw unigolyn. Fe'u defnyddir gan y Tîm Pobl i gefnogi ein hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bydd yn ein helpu i wella hygyrchedd ac amrywiaeth yn ein hymgyrchoedd hysbysebu a recriwtio.
Cofiwch edrych yn eich ffolderi sbam a sothach.
At Awen we are committed to ensuring our people are at the heart of all that we do. We want to instil an organisational culture that values people from all backgrounds and are passionate about increasing the diversity of our workforce.
We welcome and encourage applications from all backgrounds, and we do not discriminate on the basis of disability, race, colour, ethnicity, gender, gender identity, religion, sexual orientation, age, or other category protected by law.
As part of our commitment to increasing the diversity of our workforce we provide a guaranteed interview scheme to applicants who meet the minimum requirements for the job who are disabled or people of the global majority.
As part of our application process, you can ask to be considered under this scheme if you are from the global majority or have a physical or mental impairment that has a ‘substantial’ and ‘long-term’ negative effect on your ability to do normal daily activities. Providing that you meet the minimum requirements for the role, you’ll then be invited for an interview.
The minimum requirements are the essential criteria outlined in the person specification for each position. These criteria are what the job holder will need to demonstrate they have, through their application form.
To apply please complete our online application form, if you need another accessible format or any other support with the recruitment process please get in touch by emailing [email protected] or call 01656 754825.
If you are selected for interview and would like to visit the venue then please email [email protected].
For an informal discussion about this role please contact [email protected]
Please note that on submission of your application you will receive an email asking you to complete an Equity, Diversity and Inclusion (EDI) questionnaire. This data is used for statistical purposes only and is not identifiable to an individual. It is utilised by the People Team to support our commitment to EDI and will help us improve on accessibility and diversity in our advertising and recruitment campaigns.
Please check your spam and junk folders.