Cynorthwyydd Gweinyddol

Cynorthwyydd Gweinyddol Swansea, Wales

Gower College Swansea
Full Time Swansea, Wales 21408 - 22232 GBP ANNUAL Today
Job description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi tîm darparu ac aseswyr Sgiliau Hanfodol, gan gyflwyno SHC ac arholiadau mewn modd didrafferth i brentisiaid.

  • Amser-Llawn, 37 awr yr wythos
  • Parhaol
  • £21,408 - £22,232
  • Llys Jiwbilî, Fforestfach

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Cofnodi a mynd i'r afael â phob ymholiad gan ddefnyddio’r system briodol.
  • Gwirio bod dysgwyr wedi eu cofrestru a’u bod wedi cwblhau asesiadau gorfodol Cychwynnol WEST o fewn 8 wythnos.
  • Trefnu adnoddau staff a bwcio dysgwyr i ymgymryd â gweithgareddau oddi ar safle’r coleg (ledled Cymru), gan ystyried costau.

Amdanoch chi:

  • Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes
  • NEU gymhwyster cyfwerth
  • Profiad o weithio mewn swyddfa weinyddu brysur

Buddion:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Parcio am ddim
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Cynorthwyydd Gweinyddol
Gower College Swansea

www.gowercollegeswansea.ac.uk
Swansea, United Kingdom
Nick Bennett
$5 to $25 million (USD)
501 to 1000 Employees
College / University
Colleges & Universities
Education
2010
Related Jobs

All Related Listed jobs

Head Waiter/Waitress
The Jews House Restaurant Limited Lincoln, England 6 - 11 GBP HOURLY Today

To assist in the restaurant running, service, customer service, set up and closure. A full-time position, experience needed and a happy personality is a must.

Accounts AAT Trainee
Menzies LLP Leatherhead, England 22199 - 28253 GBP ANNUAL Today

Minimum 2 x A levels (A-C) and one other A level or equivalent. Where appropriate develop and supervise junior trainees.

Assistant Manager, Tommy Hilfiger - Livingston (Mat Cover / FTC)
PVH Livingston, Scotland 21066 - 27464 GBP ANNUAL Today

Clearly communicate to staff: store and individual sales goals and other key performance expectations; sales results and provide guidance on what is needed to

Night Call Operator (4am-8am)
Medica Group Remote 12.38 GBP HOURLY Today

Strong administration skills and IT literacy. To diffuse and when required, escalate client complaints through appropriate channels.

Store Assistant - Days
ASDA London, England 12.28 GBP HOURLY Today

On the Our Asda' benefits site, you will have access to a wide range of discounts across various activities and services, anything from airport parking to