Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (Dros Dro)

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (Dros Dro) Swansea, Wales

Gower College Swansea
Full Time Swansea, Wales 11.1 - 11.52 GBP HOURLY Today
Job description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

  • Oriau cyflogaeth dros dro
  • £11.10 - £11.52 yr awr
  • Ar draws amrywiol safleoedd

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Darparu cefnogaeth un i un neu grwp bach o dan gyfarwyddyd darlithydd fel sy’n briodol yn yr ystafell ddosbarth.
  • Helpu gyda datblygiad sgiliau rhifedd a llythrennedd dysgwyr.

Amdanoch chi:

  • Gradd A-C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg neu gyfatebol.
  • Profiad diweddar o weithio gyda dysgwyr ag anghenion cefnogi addysgol.

Buddion:

  • Parcio am ddim
  • Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (Dros Dro)
Gower College Swansea

www.gowercollegeswansea.ac.uk
Swansea, United Kingdom
Nick Bennett
$5 to $25 million (USD)
501 to 1000 Employees
College / University
Colleges & Universities
Education
2010
Related Jobs

All Related Listed jobs

loader
SUEZ Exeter, England 28184 - GBP HOURLY Today

Are you an experienced HGV Driver, with a current class 2 licence and valid CPC card?

When you join SUEZ, you get more than a...

Graduate Trainee - Hybrid role
Hft Oxford, England 21889 GBP ANNUAL Today

You will be scheduling and conducting interviews (alongside a Recruiter), scoring written assessments and handling all the associated administrative tasks.

Head of Year (Non-Teaching)
Co-op Academy Belle Vue Manchester, England 21931 - 24936 GBP ANNUAL Today

The post holder may be expected to attend meetings or make home visits in or outside of the normal school day so flexibility about the timing of working hours

janitor
Honest Cleaning and Services Chilliwack 24 - 21 CAD HOURLY Today

Our company provides Residential and Commercial eco friendly cleaning services. We work in teams of two to four cleaners depending on the square...

Assessment Coordinators
City & Guilds Group Burntwood, England 30166 GBP ANNUAL Today

The assessment team interacts with a number of departments within City & Guilds in order to ensure fit for purpose assessments, this means youll be working