Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg Caerdydd

Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg Caerdydd Cardiff, Wales

Cardiff University
Full Time Cardiff, Wales 29762 - 34314 GBP ANNUAL Today
Job description

Advert




The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.

Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Mae Canolfan Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau Cymraeg i oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o gyrsiau gwahanol, gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl, gweithle a chyrsiau e-ddysgu.

Rydym yn chwilio am diwtoriaid cysylltiol newydd i ymgymryd â gwaith fesul awr, gyda'r nos yn bennaf, o lefel cyn-fynediad hyd at lefel hyfedredd yn ddibynnu ar brofiad.

Mae'r swydd hon yn un fesul awr, am gyfnod penodol, hyd at 31 Gorffennaf 2027. Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu â Lowri Bunford-Jones.

Cyflog: £29,762 - £34,314 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)

Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 24 Ebrill 2023

Dyddiad cau: Dydd Llun, 19 Mehefin 2023

Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Job Description

Prif Ffwythiant

Dysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ran Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd mewn lleoliadau amrywiol ac ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig â’r gwaith yn ôl y galw.

Prif Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
  • Cyfrannu at ddysgu cyrsiau Cymraeg i Oedolion o lefel Cyn-fynediad hyd at Lefel Hyfedredd yn dibynnu ar brofiad.
  • Dysgu ar amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Cymraeg yn y Gweithle, Cymraeg i’r Teulu, cyrsiau cyfunol yn ogystal â chyrsiau prif ffrwd.
  • Ysbrydoli dysgwyr CiO a’u hannog i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol er mwyn symud tuag at ruglder.
  • Marcio ac asesu gwaith dysgwyr Cymraeg i Oedolion gan gynnwys rhoi adborth adeiladol priodol.
  • Darparu gofal bugeiliol trwy roi cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr gan feithrin a sefydlu ymddiriedaeth.
  • Ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol e.e. cynnal a chadw cofrestri dosbarth, adolygu cynlluniau dysgu.
  • Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol sydd yn addas i’r swydd ac a fydd yn ychwanegu at y perfformiad fel tiwtor Cymraeg i Oedolion.

Dyletswyddau Cyffredinol
  • Gwneud yn siwr bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau.
  • Cadw at bolisïau'r Brifysgol ym meysydd Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill ar adegau nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl

Person Specification

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg

1. Cymhwyster dysgu Cymraeg fel ail iaith, profiad o addysgu Cymraeg i Oedolion cyn 2002 neu ymrwymiad i gymhwyso.

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

2. Cymraeg o ansawdd uchel ar lafar ac yn ysgrifenedig.
3. Gallu i ddysgu ym maes Cymraeg i Oedolion ar y lefel ansawdd briodol.
4. Sgiliau Technoleg Gwybodaeth e.e. Microsoft Office gan gynnwys y we ac e-bost.

Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm

5. Sgiliau cyfathrebu diamheuol, gan gynnwys cyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol.
6. Sgiliau arbennig o dda o safbwynt trefnu a gweithio mewn tîm.

Meini Prawf Dymunol

7. Profiad o addysgu Cymraeg i Oedolion.
8. Profiad o e-ddysgu e.e. bwrdd gwyn rhyngweithiol.
9. Gwybodaeth am wahanol dechnegau dysgu ail iaith (y Gymraeg neu iaith fodern).

Additional Information

Mae’r gwaith dysgu yn ystod yr wythnos waith yn cwmpasu rhwng 8.00 y bore a 9.00 yr hwyr a hynny mewn lleoliadau ar draws y ddinas o dan amodau arferol, a pheth o'r dysgu ar-lein. Cytunir ymlaen llaw ar amserlen yr unigolyn. Disgwylir i diwtoriaid fod ar gael i ddysgu ar benwythnosau o bryd i’w gilydd a hefyd i gyflenwi

Salary Range Min.

29,762

Salary Range Max.

34,314

Job Category

Academic - Teaching & Scholarship

Grade

Grade 5 Hourly

Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg Caerdydd
Cardiff University

www.cardiff.ac.uk
Cardiff, United Kingdom
Colin Riordan
Unknown / Non-Applicable
5001 to 10000 Employees
College / University
Colleges & Universities
Education
1883
Related Jobs

All Related Listed jobs

SPIN - Machine Learning Applications for LEO Timing Service
Satellite Applications Catapult Harwell, South East England, England 2100 GBP MONTHLY Today

The candidate will be given access to the dataset and will use Python machine learning techniques to support the Satellite Applications Catapult Team in

Admin Assistant
Multi Trades Recruitment Limited Bolton, England 20000 - 23500 GBP ANNUAL Today

Excellent phone communication skills as there will be a large amount of calls made to our field agents for progress updates, support and assistance purposes.

Customer Assistant
Morrisons Strood, England 21000 - 22914 GBP ANNUAL Today

Our store teams are at the heart of the local community and our Customer Assistants provide a great service and a buzz people enjoy. Its why our customers

TikTok LIVE - Global Customer Service Representative, Russian Speaking (Based in London)
TikTok London, England 24755 - 27764 GBP ANNUAL Today

Proficiency in both English and Russian is essential, as you will be required to communicate with external customers in Russian.

Lindt Store Manager
McArthurGlen Designer Outlets Bridgend, Wales 37814 - 46427 GBP ANNUAL Today

Use provided business tools, along with good personal judgement, to drive and exceed store sales and profit targets.