TECHNEGYDD THERAPI GALWEDIGAETHOL

TECHNEGYDD THERAPI GALWEDIGAETHOL Cardiff, Wales

Cardiff Council
Full Time Cardiff, Wales 21968 - 24054 GBP ANNUAL Today
Job description

Am Y Gwasanaeth


Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer (CWO) Caerdydd a'r Fro yn awyddus i gyflogi Technegydd Therapi Galwedigaethol wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF.

Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn cynnal amrywiaeth eang o gymhorthion symud i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.
Mae offer yn cael ei archebu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel Nyrsys Ardal, Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ac yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau, o welyau arbenigol a theclynnau codi i offer ystafell ymolchi ac offer eistedd a cherdded a ddefnyddir gan blant mewn ysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.


Am Y Swydd


Byddwch yn gyfrifol am gasglu, dosbarthu a gosod (yn ôl yr angen) offer a ddyluniwyd i gynorthwyo pobl ag anableddau yn eu cartrefi eu hunain. Bydd yn rhaid gweithio fel tîm o ddau i osod eitemau mwy (e.e. gwelyau proffilio a theclynnau codi). Ar ôl pob cais am ddosbarthu/gosod gan aelod tîm clinigol yn dilyn asesiad o anghenion y cleient, caiff archeb ddosbarthu ei phrosesu gan dîm gweinyddu’r CWO a chaiff yr offer ei gasglu, ei ddosbarthu a’i osod gan dîm mewnol y byddai’r swydd hon yn rhan ohono.

Sylwch fod y gwasanaeth hwn yn gweithredu o 8am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8am tan 3:30pm ar ddydd Gwener.


Beth Rydym Ei Eisiau Gennych


Mae'r swydd yn un gorfforol a bydd angen i chi allu cyflawni ystod eang o weithgareddau codi a chario (codi, tynnu, gwthio ac ati).

Mae'r holl amserlenni gwaith yn cael eu rheoli gan ddefnyddio dyfeisiau llaw felly mae dealltwriaeth o dechnoleg/apiau symudol yn hanfodol. Bydd angen gweithredu faniau masnachol bach (dan 7.5T) yn rhan o’r swydd ac felly mae trwydded yrru lân yn hanfodol.

Byddwch yn dosbarthu at ac yn mynd i mewn i gartrefi preswylwyr sy'n agored i niwed ac mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn ofyniad hanfodol arall i'r swydd.


Gwybodaeth Ychwanegol


Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Neal Hall – Rheolwr Gwasanaeth 02920 873 670

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl yn y dyfodol efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook, Instagram, drwy danysgrifio i'n sianel YouTube, neu drwy ymweld â'n gwefan www.caerdydd.gov.uk.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.


Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

  • Canllawiau Gwneud Cais
  • Gwneud cais am swydd â ni
  • Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

  • Siarter y Gweithwyr
  • Recriwtio Cyn-droseddwyr
  • Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03008

TECHNEGYDD THERAPI GALWEDIGAETHOL
Cardiff Council

www.cardiff.gov.uk
Cardiff, United Kingdom
Heather Joyce
$25 to $50 million (USD)
1001 to 5000 Employees
Government
Municipal Agencies
Related Jobs

All Related Listed jobs

Summer internship statistics
Johnson & Johnson High Wycombe, England 44412 - 65011 GBP ANNUAL Today

To perform statistical analyses, writing of computer programs using popular packages and software applications will be employed. Proficiency in R is preferred.

Cyber Security Manager
City of Union City Union City, CA 12315 - 14690 USD MONTHLY Today

Bachelor's degree from an accredited college or university in Computer Engineering, Computer Science, Information Systems, Information Technology, or a closely

Halifax Bank - Customer Adviser - Exeter
Lloyds Banking Group Exeter, England 21200 - 21260 GBP ANNUAL Today

Acting with care and integrity - taking time to resolve queries and giving our customers confidence in the service you're providing.

inside account executive
The Recruitment Crowd Huddersfield, England 35000 - 27000 GBP ANNUAL Today

Internal Sales Executive
Hours: Monday to Friday 7.30am – 5pm
Salary: £27,000 to £35,000...

Care Assistant - Bank Position
Gold Care Homes Hillside, Scotland 11 GBP HOURLY Today

Providing residents and staff with a warm, friendly, healthy and safe environment to live and work. Being responsive and showing compassion to the individual