Job description
Swydd Wag Fewnol / Allanol
Cyf: 12089
Teitl y Swydd: Technegydd Gwasanaethau Adeiladau
Contract: Parhaol, Llawn Amser
Oriau: 37
Cyflog: £21,030 - £22,469 per annum
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Technegydd Diwydiannau Creadigol yn adran Diwydiannau Creadigol Coleg Caerdydd a'r Fro. Lleolir y swydd hon ar draws safleoedd.
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
Chwarae rhan weithredol yn yr holl sesiynau ymarferol sydd wedi’u trefnu o fewn oriau gwaith y contract a darparu cefnogaeth i staff gydag adnoddau a chyfarpar i alluogi’r sesiynau hyn i redeg yn ddidrafferth.- Cynnal gweithdrefnau er mwyn defnyddio cyfleusterau adrannau’n effeithiol ac effeithlon.
- Cynorthwyo staff darlithio gyda pharatoi deunyddiau a chyfarpar ar gyfer gweithgareddau myfyrwyr.
- Sicrhau bod cyflenwadau digonol o ddeunyddiau, cyfarpar ac offer ar gael pan fo’u hangen.
- Datgysylltu gwaith myfyrwyr a chadw deunyddiau er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
- Cadw cofnod rheolaidd o offer, cyfarpar etc. a chynorthwyo staff darlithio i sicrhau diogelwch cyffredinol o fewn yr adran.
- Cynorthwyo gyda gwirio stoc a diweddaru cofnodion stoc yn flynyddol.
- Cynnal archwiliadau cynnal a chadw cyffredinol cyson.
- Cynorthwyo gyda sicrhau amgylchedd gweithio diogel ym mhob ardal ddynodedig. Mae’r ddyletswydd hon yn cynnwys profi dyfeisiau cludadwy (PAT), rheoliadau COSHH ac unrhyw reoliadau fydd y Coleg angen eu cyflwyno yn y dyfodol ynghyd â gweithdrefnau cofnodi cysylltiedig.
- Cynorthwyo staff darlithio gyda pharatoi deunyddiau addysgu cwrs, datblygu a chyflwyno'r cwricwlwm fel aelod o’r tîm. Cynorthwyo gyda’r datblygiadau cyffredinol.
- Cwblhau unrhyw ddatblygiad proffesiynol parhaus diwydiannol perthnasol yn unol â gofynion cyrff dyfarnu i gynnal hygrededd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chadw adeiladau’r Coleg.
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 08/05/2023 yr 5:00pm.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost at [email protected].
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.