Job description
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddedig, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â'n Tîm Ymgysylltu Iechyd a Lles.
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydlynu ac yn helpu i ddarparu rhaglenni gwaith iechyd a lles e.e. Dementia, Gofalwyr Di-dâl, HIV, dinas Sy'n Dda i Bobl Hŷn ac ati.
Byddwch yn gweithio ar y cyd ag amrywiol sefydliadau partner a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu gwasanaethau a mentrau.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd angen dull hyblyg a'r gallu i weithio ar draws yr holl raglenni gwaith, cyfrannu at reoli prosiectau a rhwydweithio effeithiol.
Bydd gennych sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol, bydd yn rhaid i chi fonitro a mapio cyflawniad.
Bydd gennych brofiad o ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion ystadegol rhagorol.
Bydd gennych sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog. Byddwch yn hyblyg, chwarae rôl actif o fewn tîm yr Hyb/Llyfrgell a chyfathrebu’n dda. Byddwch yn gallu gweithio’n dda o fewn y tîm hefyd”
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Dominions Way, Heol Casnewydd.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, e-bostiwch [email protected]
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03041