Job description
DEPARTMENT AND SALARY
Department – Sport System
Salary - Grade 9, £45,111.09 - £48,324.12
Working Hours – 37 hours per week (consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy)
WHO WE ARE
Sport Wales is the national organisation responsible for developing and promoting sport and physical activity in Wales. We are the main adviser on sporting matters to the Welsh Government and are responsible for distributing National Lottery funds. We aim to not only improve the level of sports participation at grassroots level but also provide our aspiring athletes with the support required to compete successfully on the world stage.
Equality, Diversity & Inclusion is at the heart of everything we do at Sport Wales. Further information on this can be found in our Equality, Diversity & Inclusion Statement here.
We are a progressive employer that offers excellent employee benefits and promotes a healthy work life balance, offering a range of flexible approaches to support you.
Language skills (bilingualism & multilingualism) are desirable characteristics across all roles within Sport Wales. We are passionate about promoting the use of Welsh language and, as part of our development programme, give everyone the opportunity to learn Welsh if they wish to do so, offering learning programmes from beginner right through to fluent.
Sport Wales embraces a blended approach to work, where you will be able to split your time between the office and home to best suit your personal circumstances.
To find out what it’s like to work with us at Sport Wales please watch the video on our careers page.
HOW YOU'LL CONTRIBUTE
This is an exciting opportunity to make a significant impact to Sport in Wales. This role is pivotal in developing strong and trusted relationships with our partners. Our relationships will, ultimately, determine our capacity to enable Sport in Wales to thrive. In our strategy, we have committed to an approach that recognizes that we will need to work in a very different way with our partners. As our key interface, you will be the embodiment of this way of working, and responsible for its success. This will be made all the more challenging in an ever evolving, responsive role where the needs of the relationship will be bespoke to each partner.
Equality, diversity and inclusion is at the heart of everything we do at Sport Wales. You will provide leadership and support, ensuring the elements of equality are embedded within our partner organisations and across the sector.
You will develop and maintain excellent, trusted relationships with senior leaders to support, develop and challenge strategic ambitions and drive transformational change, culture change and continuous improvement.
WHAT YOU’LL NEED
We are looking for candidates who can build highly effective relationships and who can challenge consensus in a constructive and honest way.
You’ll need a passion for equality, diversity and inclusion and the ability to generate ideas and influence in a way that will lead to measurable change.
You will be dedicated to learning and supporting others to learn (both within partners and across partners) with a focus on improvement rather than ‘getting it right.’
You will need to be efficient, manage multiple areas of work and have the ability to create a good and positive working environment, deal effectively with issues and problems; motivating, encouraging and challenging your colleagues.
The ability to speak Welsh is desirable, although not essential. If you have the presence and personality to work in a high performing team as well as the passion and drive to succeed, then we would love to hear from you.
WHAT HAPPENS NEXT
You should read the full job description.
You can apply for this role now.
If you’d like to discuss the role further, then please email [email protected]
For more information on the process of applying please email [email protected]
CLOSING DATE
12:00pm 3/7/2023
PROVISIONAL INTERVIEW DATE
13/7/2023 and 14/7/2023
ADRAN A CHYFLOG
Adran – System Chwaraeon
Cyflog – Graddfa 9, £45,111.09 - £48,324.12
Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)
PWY YDYM NI
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfun o weithio a byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’r cartref i weddu i'ch amgylchiadau personol.
I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideo ar ein tudalen gyrfaoedd.
SUT BYDDWCH YN CYFRANNU
Mae hwn yn gyfle cyffrous i gael effaith sylweddol ar Chwaraeon yng Nghymru. Dyma rôl allweddol i ddatblygu perthnasoedd cadarn a dibynadwy gyda’n partneriaid. Bydd ein perthnasoedd gyda phartneriaid, yn y pen draw, yn penderfynu ar ein capasiti i alluogi i Chwaraeon yng Nghymru ffynnu. Yn ein strategaeth, rydym wedi ymrwymo i ddull o weithredu sy’n cydnabod y bydd rhaid i ni weithio mewn ffordd wahanol iawn gyda’n partneriaid. Fel ein cyswllt allweddol, byddwch yn ymgorffori’r dull hwn o weithio ac yn gyfrifol am ei lwyddiant. Bydd hyn yn fwy heriol mewn rôl ymatebol sy’n esblygu o hyd lle bydd anghenion y berthynas yn bwrpasol i bob partner.
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth, gan sicrhau bod elfennau cydraddoldeb wedi'u hymgorffori yn ein sefydliadau partner ac ar draws y sector.
Byddwch yn datblygu ac yn cynnal perthnasoedd rhagorol a dibynadwy gydag uwch arweinwyr i gefnogi, datblygu a herio uchelgeisiau strategol a chreu newid trawsffurfiol, newid diwylliant a gwelliant parhaus.
BETH FYDD ARNOTH EI ANGEN
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu meithrin perthnasoedd hynod effeithiol ac sy’n gallu herio consensws mewn ffordd adeiladol a gonest.
Bydd arnoch angen angerdd dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a’r gallu i gynhyrchu syniadau a dylanwadu mewn ffordd a fydd yn arwain at newid mesuradwy.
Byddwch wedi ymrwymo i ddysgu a chefnogi eraill i ddysgu (o fewn partneriaid ac ar draws partneriaid) gyda ffocws ar wella yn hytrach na ‘gwneud pethau’n iawn’.
Bydd rhaid i chi fod yn effeithlon, rheoli sawl maes gwaith a gallu creu amgylchedd gwaith da a phositif, gan ddelio’n effeithiol gyda materion a phroblemau, a chymell, annog a herio eich cydweithwyr.
Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel a hefyd angerdd a dyhead i lwyddo, byddem yn hoff iawn o glywed gennych chi.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF
Dylech darllen y disgrifiad swydd llawnd.
Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.
Os hoffech chi drafod y rôl ymhellach, anfonwch e-bost i [email protected]
I gael mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio anfonwch e-bost i [email protected]
DYDDIAD CAU
12:00pm 3/7/2023
DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD
13/7/2023 and 14/7/2023