Gweinyddwr y Dderbynfa (Achlysurol)

Gweinyddwr y Dderbynfa (Achlysurol) Swansea, Wales

Gower College Swansea
Full Time Swansea, Wales 10.9 GBP HOURLY Today
Job description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Byddwch yn bennaf yn gweithio yn y dderbynfa, a bydd gofyn ichi weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid mewnol ac allanol a myfyrwyr. Yn ogystal, byddwch yn cynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar gymorth dysgu, a bydd gofyn i chi wneud hyn wyneb yn wyneb a thros y ffôn, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a hyrwyddo Coleg Gwyr Abertawe.

  • Oriau cyflogaeth dros dro - Oriau Amrywiol
  • Dyddiau Gwaith rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener, Nos, Bore a Prynhawn
  • £10.90 yr awr
  • Ar draws amrywiol safleoed - Tycoch, Gorseinon, Llys Jiwbili, Plas Sgeti a Llwyn y Bryn.

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Dyletswyddau derbynfa dyddiol - bydd hyn yn amrywio o gampws i gampws.
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, gan eu cyfarch yn fewnol ac allanol e.e. paratoi a dosbarthu pasys i ymwelwyr a’u cyfeirio nhw at y mannau cywir.
  • Gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol wrth ddelio â phob ymholiad, ateb galwadau ffôn ar ran y campws, cymryd negeseuon a’u rhannu gyda’r unigolion cywir ac ateb ymholiadau dros e-bost.
  • Dosbarthu post mewnol ac allanol, dileu, dosbarthu a phrosesu archebion e.e. deunyddiau, a sicrhau hefyd bod stoc yn cael ei ddosbarthu.

Amdanoch chi:

  • Cymhwyster NVQ Level 2 perthnasol neu’r cyfwerth
  • Cymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (Gradd A-C)
  • Profiad o ddefnyddio systemau Microsoft Office a MIS
  • Profiad o weithio mewn rôl brysur sy’n ymwneud â chwsmeriaid.

Buddion:

  • Parcio am ddim
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Gweinyddwr y Dderbynfa (Achlysurol)
Gower College Swansea

www.gowercollegeswansea.ac.uk
Swansea, United Kingdom
Nick Bennett
$5 to $25 million (USD)
501 to 1000 Employees
College / University
Colleges & Universities
Education
2010
Related Jobs

All Related Listed jobs

Store Assistant
Aldi Strood, England 11 GBP HOURLY Today

You'll do everything from checking off deliveries to dealing with enquiries or ensuring that the shelves are fully stocked with well-presented products.

training specialist
Paper Converting Machine Wakefield, England 58462 - 30909 GBP ANNUAL Today

We have an excellent opportunity for a Learning & Development Advisor to join our People team.

Based from our offices in...

Receptionist
MyDentist Bridgend, Wales 10 - 10.5 GBP HOURLY Today

Excellent interpersonal skills including a professional and welcoming telephone manner. Employee Assistance Programme, with confidential access to telephone

Junior Legal Admin Assistant (6-12 Months)
Atkins Dellow United Kingdom Today

Answering and dealing with queries, both face to face and via the telephone, take messages accurately and pass them on to the relevant member of staff.

design engineer
NIE Networks Belfast, Northern Ireland 55000 - 37000 GBP ANNUAL Today

The Customer Delivery Directorate is responsible for the delivery of NIE Network's Capital Investment Programme and Customer Connections. It is...