Job description
Cyflog: Gradd 8: £37,386 – £43,155 y flwyddyn, ynghyd â buddion pensiwn Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion (USS) : Dyma swydd barhaol (amser llawn, 35 awr); caiff ceisiadau i weithio ar sail ran-amser eu hystyried. Lleoliad: Lleolir y swydd hon ar Gampws Parc Singleton Rydym am benodi Darlithydd - Rheolwr Rhaglenni MSc i reoli'r gwaith o ddylunio, cyflwyno ac adolygu ein cyfres o raglenni MSc ôl-raddedig a addysgir . Bydd deiliad y swydd yn meithrin dealltwriaeth dda o bob agwedd ar ddarpariaeth Ôl-raddedig a Addysgir yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a bydd ganddo gyfrifoldeb penodol am gyflwyno'r modiwl traethawd ymchwil ar draws y gyfres hon o raglenni. Bydd yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr academaidd a gwasanaethau proffesiynol wrth adolygu ac ail-ddylunio modiwlau a rhaglenni ac yn galluogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu rhaglenni MSc newydd; yn y ddau achos, gan gynnwys lle gallai achrediad corff proffesiynol fod yn ofynnol. Byddai profiad o ddatblygu a defnyddio technolegau dysgu digidol newydd i ategu profiad myfyrwyr addysg gynhwysol yn ddymunol. Mae’r swydd hon yn gyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, un o Ysgolion Meddygaeth mwyaf blaenllaw’r DU. Mae'r Ysgol Feddygaeth yn rhan flaengar, ddynamig ac uchelgeisiol o’r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe ac mae'n darparu ymagwedd ryngddisgyblaethol, gan addysgu a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr bywyd ac ymarferwyr iechyd proffesiynol. Mae'n cydweithredu â'r GIG, busnesau a'r trydydd sector mewn ysbryd o arloesi agored ac mae wedi ei sefydlu ei hun fel lle o'r radd flaenaf i ddysgu, ymchwilio ac arloesi. Mae'r Ysgol Feddygaeth ymysg y pump uchaf am ansawdd ymchwil (REF2021), ac fe'i rhestrir ymysg y pump uchaf yn gyson mewn tablau cynghrair addysgu amrywiol sy'n benodol i bynciau. Yr Ysgol Feddygaeth oedd yr adran gyntaf yn y Brifysgol i ennill Gwobr Arian Siarter Athena SWAN yr Uned Her Cydraddoldeb yn 2015, ac ail-ddyfarnwyd y statws iddi yn 2019 i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb. Mae’r Brifysgol hefyd yn ddeiliad Gwobr Arian Siarter Athena SWAN. Mae Abertawe'n lle gwych i fyw a gweithio, mae'n borth i benrhyn Gŵyr a'i draethau bendigedig ac mae'n agos at Fannau Brycheiniog. Bydd y swydd yn swydd Addysgu Uwch ar y cynllun Llwybr Gyrfa Academaidd (ACP). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.swansea.ac.uk/cy/swyddi-yn-abertawe/galluogi-perfformiad/cymhellion-academaidd/. Mae croeso i ymgeiswyr nodi amgylchiadau unigol perthnasol megis saib yn eich gyrfa, cyfnodau o wyliau neu ar secondiad, neu absenoldebau eraill, y dylid eu hystyried, a sut mae'r rhain wedi effeithio ar ddatblygiad eich gyrfa. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd neu gred, rhyw, tueddfryd rhywiol. Mae menywod wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan fenywod yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser. Sylwer bod y swydd hon hefyd yn cael ei hysbysebu i gronfa o gydweithwyr mewnol fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i gyflogi cydweithwyr sy’n cael eu hadleoli. Os bydd y swydd hon yn cael ei llenwi drwy'r llwybr hwn, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau hyn. Os na fyddwch yn derbyn e-bost, cymerwch yn ganiataol bod eich cais yn dal i fod yn y broses. Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau Cyflwyno cais Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio. Hefyd, dylai ymgeiswyr atodi'r dogfennau canlynol i’r cais: Curriculum Vitae Datganiad o Gymhelliant Am ragor o wybodaeth, gweler y Disgrifiad Swydd atodedig, ac mae croeso i chi e-bostio Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth, sef yr Athro Cathy Thornton, yn . Swansea University