Job description
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth: Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Ysgol: Y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol - Cyfadran Math o Gontract: Parhaol Oriau gwaith: Amser Llawn, 35 awr yr wythnos Lleoliad: Campws y Bae a Champws Singleton Er mwyn cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe â'r sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol. Roedd y broses o greu tair cyfadran ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020 yn llwyfan allweddol ar gyfer sicrhau llwyddiant pellach y Brifysgol dros y degawd nesaf. Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous i chi ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad i wneud gwahaniaeth go iawn i ganlyniadau a llwyddiant y cyfadrannau yn un o'n timoedd craidd. Mae Prifysgol Abertawe’n nodweddiadol am y gwerthoedd, y diwylliant a’r ymddygiad unigryw sydd wrth wraidd ein holl weithgarwch ac sy'n tanategu pileri allweddol ein Prifysgol fel y’u hamlinellir yng . Bydd y swydd hon yn y Tîm Addysg a Phrofiad Myfyrwyr. Crëwyd strwythurau a rolau cyson ar draws y tair cyfadran, i hwyluso cydweithio ac arloesi a fydd yn arwain at ragoriaeth canlyniadau, darpariaeth a chymorth. Gwybodaeth gefndirol Bydd y Cynorthwy-ydd Asesu a Dyfarnu yn gweithio yn nhîm Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Gyfadran mewn partneriaeth â staff academaidd, er mwyn darparu'r lefelau uchaf o ragoriaeth mewn cefnogaeth broffesiynol yn y swyddogaethau canlynol: Cydlynu, Cynllunio a Rheoli Asesu – bydd hyn yn cynnwys pob rhaglen yn y Gyfadran. Cynllunio'r Flwyddyn/Cylch Academaidd – Gweithio i ddarparu rhaglen berthnasol o gefnogaeth brydlon ar gyfer asesiadau ac arholiadau i staff academaidd yn y Gyfadran er mwyn sicrhau y bodlonir yr holl derfynau amser. Adborth Asesu a Marciau – Sicrhau y cofnodir yr holl farciau'n gywir ar y system, ac y rhoir adborth yn brydlon yn unol ag arweiniad/polisi'r Brifysgol er mwyn sicrhau y rhoir penderfyniadau ynghylch dilyniant neu ddyfarniadau i fyfyrwyr yn gywir ac yn brydlon. Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio'n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr tîm/rheolwyr pan fo'n briodol. Bydd y swydd hon yn addas i ymgeiswyr sy'n hynod drefnus, sy'n rhagweithiol, sydd â llygad craff am fanylion ac sy'n gallu gweithio i derfynau amser tynn o dan bwysau, gan ragweld problemau a all godi. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff academaidd o raglen/ni astudio penodol, neu gefnogi swyddogaeth benodol yn y tîm ledled y gyfadran, felly mae'r gallu i feithrin perthnasoedd gweithio effeithiol a magu dealltwriaeth o raglenni a rheoliadau academaidd yn hanfodol. Am ragor o wybodaeth, a wnewch chi e-bostio Nicki Suddell ( ) Amlinelliad i ymgeiswyr ar sut i gyflwyno cais: Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio. Dylai ymgeiswyr hefyd atodi CV diweddar i'r cais. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol. Dyddiad cau: 24 Gorffennaf Dyddiad cyrraedd rhestr fer: 31 Gorffennaf Dyddiad cyfweld: 17 Awst Swansea University